Oriau Ysgol / School Hours
Bore / Morning –
9.00y.b./a.m. – 12.00 y.p./p.m. Amser egwyl / Play time – 10.30 y.b./a.m. – 10.45 y.b./p.m. Cinio Cyfnod Sylfaen / Foundation Phase Dinner - 11.45 y.b. / a.m. – 1.00 y.p. / p.m. Cinio Cyfnod Allweddol 2 / Key Stage 2 dinner - 12.00 y.b. / a.m. – 1.00 y.p. / p.m. |
Egwyl Prynhawn / Play time - 2.15 y.p. / p.m. – 2.30 y.p. / p.m. Diwedd y Dydd / End of day 3.30 y.p. / p.m. Clwb Cledlyn - Clwb ar ôl Ysgol After School Club – Neuadd yr Ysgol / School hall 3.30 – 5.30 y.p. / p.m. |
Dyddiadau Gwyliau Ysgol - School Holiday Dates
Gwybodaeth / Information
Llywodraethwyr -
Mae rhestr gyflawn o’r Llywodraethwyr ynghlwm mewn atodiad. Gweler rhestr o’r Llywodraethwyr ar wefan yr ysgol ac wedi arddangos yn yr ysgol. Arddangosir cofnodion tymhorol ein cyfarfodydd yn yr ysgol.
Your browser does not support viewing this document. Click here to download the document.
|
Clwb Brecwast a Cinio Ysgol /
Breakfast Club and School Dinners
Grant Gdd / PDG Grant -
£10,350 - 2022/2023 Defnydddiwn y grant i gyfrannu tuag at gyflogau staff i gynorthwyo gyda rhaglenni ymyrraeth i ddatblygu sgiliau disgyblion mewn llythrennedd a rhifedd. The grant contributes towards staff to provide intervention programs to assist children with learning needs and to develop their literacy and numeracy skills. |
Clwb Brecwast
Cynhelir Clwb Brecwast yn Neuadd yr ysgol sydd yn agor am 8..10 o’r gloch bob bore. Mae cyfle i ddisgyblion i gael sudd, tost a grawnfwyd ac yna mae cyfle iddynt gymdeithasu a chwarae gwahanol gemau. Mae’r disgyblion yn trosglwyddo i’r dosbarthiadau erbyn 8.30 y.b. ac mae goruchwyliaeth drostynt nes fydd y diwrnod addysgol yn dechrau. Cinio Ysgol Darperir cinio o gegin yr ysgol yn ddyddiol ac mae’r cogyddion yn dilyn bwydlen â awgrymir gan y Sir – sydd wedi ei ddewis a’u ddethol yn ofalus. Mae cyfle i ddisgyblion ddod â brechdanau petai nhw’n dymuno – ond hyrwyddir egwyddorion Ysgolion Iach. Darperir brechdanau ar ddiwrnodau teithiau ysgol. Mae dŵr ar fyrddau cinio i bob un ac mae staff yr ysgol yn goruchwylio drwy’r cyfnod yma. bellach mae system "Parentpay" yn ffordd digidol i dalu arian cinio ond darperir cinio am ddim i ddisgyblion Derbyn i flwyddyn 6 erbyn hyn. Ceir ffurflenni o’r Ysgol neu Awdurdod Lleol petai chi am geisio am gyllid ychwanegol drwy "Grant Hanfodion" |
Breakfast Club
Breakfast Club is held every morning in the Hall from 8.10 a.m. onwards. Children are able to have juice, toast and cereal and there is also an opportunity to socialise in the hall and play different games. Children then transfer to their classrooms at 8.30 .a.m. and there is adequate supervision until lessons begin. School Dinners School dinners are provided from the on-site kitchen every day and the cooks follow the menu that the County suggests – where a lot of consideration has been given to the ingredients and balance. Children are able to bring sandwiches if they wish but need to follow the Healthy Schools Guidelines. Sandwiches are provided on school trip days. Water is provided on the tables for all children and staff supervise pupils during dinner times. Dinner money is now collected through "Parentpay" but all pupils from Reception - Year 6 receive Free school Meals. For further information please contact the school or the local authority for the appropriate form. There are additional assistance for "School Essentials" to assist with uniform. |
Rhieni a Staff / Parents and Staff.
Mae pwyllgor rhieni a staff gweithgar gyda ni yn yr ysgol sydd yn hael iawn i’r disgyblion ac yn cynnal gweithgareddau yn ystod y flwyddyn gan gynnwys ras Rhedeg a Thwrnamaint Pêl droed. Maent hefyd yn annog pawb i gymdeithasu.
Cyfranir yn gyson i fysiau mae’r ysgol yn llogi a eitemau eraill. Gwerthfawrogwn pob cynrychiolaeth a chefnogaeth yn ystod gweithgareddau gan fod pob disgybl yn elwa o’r profiadau yma. |
We have an active parents and staff committee in the school who are very generous to the pupils and hold different activities during the year including a running race and a Football Tournament. They also encourage everyone to socialize.
Financial Contributions are regularly made to buses that the school hires and a number of other items. We appreciate all representations and support during activities as every pupil benefits from these experiences. |
Urdd Gobaith Cymru
Urdd Gobaith Cymru
Cefnogwn fudiad Urdd Gobaith Cymru yn frwd gan gynnal nifer o weithgareddau amrywiol â gynigir i ni yn flynyddol. Mynychwn sbri-diri, Jambori, Chwaraeon gan gynnwys Pêl rhwyd, Pêl droed, Rygbi a Chog-urdd. Cynhelir Clwb Urdd i ddisgyblion yn wythnosol o’r derbyn i flwyddyn 6 yn yr Ysgol lle ymgymerwn ag ymarferiadau, creu gweithgareddau hwyliog a mwynhad drwy gyfrwng y Gymraeg yn ystod Tymor yr Hydref a Gwanwyn. Anogir disgyblion i ddod â ffrwyth i fwyta ar gychwyn y sesiwn. Yn ystod y flwyddyn mae disgyblion blynyddoedd 3 a 4 yn derbyn cyfle i fynychu gwersyll Llangrannog a blynyddoedd 5 a 6 yn mynychu Gwersyll Caerdydd a Glan-llyn am yn ail. Mae’r Ysgol yn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd yn flynyddol a llwyddon i ennill y safle cyntaf yn y corau o dan 150 o ddisgyblion yn 2018 – sef ein blwyddyn gyntaf. |
Urdd Gobaith Cymru
We enthusiastically support the Urdd Gobaith Cymru movement and carry out a number of diverse activities offered to us annually. We attended Sbri - diri, Jamboree, Sports including Netball, Football, Rugby and the Cookery competition. A Club is held for pupils weekly and children of reception - year 6 are welcome to attend. During the Club, we practice, hold fun activities and enjoyment through the medium of Welsh during the Autumn and Spring Season. Pupils are encouraged to bring fruit to eat at the beginning of the session. During the year, pupils in years 3 and 4 are given the opportunity to attend the residential camp at Llangrannog. Years 5 and 6 attend the Cardiff / Glan-Llyn residential Camp every other year The School competes at the Urdd Eisteddfod annually and won the School Choir competition for under 150 pupils in our first year. |
Oriel / Gallery
Ysgol Gynradd Dyffryn Cledlyn,
Drefach, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, SA40 9SX |
Cyfrynghau Cymeithasol / Social Media
|