Cysylltwch â Ni / Contact Us
Ysgol Gynradd Dyffryn Cledlyn,
Drefach, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, SA40 9SX Rhif ffon / Phone number – 01570 940 942
E-bost / E-mail – [email protected] |
Trydar / Twitter
Ffurflen gysylltu / Contact Form
Gwybodaeth Defnyddiol / Useful Information.
Rhif derbyn yr Ysgol / School Admission Number- 31
Capasiti yr ysgol / School Capacity - 150
Math o Ysgol – Ysgol Gymraeg 3-11 mlwydd oed / Type of School – Welsh medium School – 3- 11 years old
Capasiti yr ysgol / School Capacity - 150
Math o Ysgol – Ysgol Gymraeg 3-11 mlwydd oed / Type of School – Welsh medium School – 3- 11 years old
Polisi Derbyn
Mae gan yr ysgol rhif derbyn o 31 a gellir cofrestru ar gyfer yr ysgol drwy lenwi ffurflen ar ein gwefan neu wefan Cyngor Sir Ceredigion. Mae angen cwblhau y ffurflen yma erbyn 30ain o Ebrill. Gan fod dosbarth Meithrin a Derbyn gyda ni yn yr ysgol, mae angen cofrestru ar gyfer y ddau ddosbarth ar wahân. Nid ydynt yn trosglwyddo yn awtomatig o un i’r llall. Awdurdod Lleol Ceredigion sydd yn derbyn ac yn prosesu ceisiadau. Diffinnir dalgylch Ysgol Dyffryn Cledlyn fel Plwyf Llanwnnen a Llanwenog a phentref Cribyn. Mae rhestr o flaenoriaethau wrth ystyried ceisiadau, ac ystyrir brodyr neu chwiorydd sydd eisoes yn yr ysgol fel blaenoriaeth. Mae disgyblion dosbarth meithrin yn cychwyn ar ôl eu pen-blwyddi yn 3 oed, lle medrant fynychu dosbarth meithrin yr ysgol bob bore. Mae Cylch Meithrin ar safle’r ysgol sydd yn medru darparu gofal dydd ar gyfer disgyblion 2-3 oed, ac mae modd i drosglwyddo o’r ysgol Feithrin i’r Cylch Meithrin yn y prynhawn. Yn yr un modd mae disgyblion Derbyn yn cychwyn yn y dosbarth ar ôl eu pen-blwydd yn 4 oed ac yn mynychu’r ysgol drwy’r dydd. Darparwn 2 hanner diwrnod o bontio yn ystod y tymor cyn iddynt gychwyn / newid dosbarthiadau, a diwrnod llawn ychwanegol yn y dosbarth derbyn. Mae disgyblion Blwyddyn 6 – pan yn 11 oed yn derbyn amryw o gyfleon Pontio wrth fynychu Ysgol Bro Pedr yn Llanbed neu Ysgol Bro Teifi yn Llandysul. Cydweithiwn gyda’r Ysgolion er mwyn sicrhau diwrnodau pontio a phrofiadau gwerthfawr. |
Admissions Policy
The school has an admission number of 31 and pupils can be registered for the school by completing a form on the school website or Ceredigion County Council. This form needs to be completed by the 30th of April. As we have a Nursery and Reception class at school, registration is required for both classes separately. They do not automatically transfer from one to the other. Ceredigion Local Authority receives and processes all applications. The catchment area of Ysgol Dyffryn Cledlyn is defined as the Parish of Llanwnnen and Llanwenog and the village of Cribyn. There is a list of priorities when considering applications, and brothers or sisters who are already in school are considered as a priority. Nursery class pupils start after their 3rd birthday, where they can attend the nursery class every morning. The ‘Cylch Meithrin’ is on the school site which can provide day care for 2-3 year olds, and it is possible to transfer from Nursery to the ‘Cylch Meithrin’ in the afternoon. In the same way, admissions pupils start in class after their 4th birthday and attend school all day. We provide 2 half days of bridging during the term before they start / change classes, and an extra full day in the reception class. Year 6 pupils - at the age of 11 receive a variety of bridging opportunities when attending Ysgol Bro Pedr in Lampeter or Ysgol Bro Teifi in Llandysul. We work with the Schools to ensure bridging days are valuable experiences. |