Croeso cynnes i Ysgol Gynradd Dyffryn Cledlyn.
Agorodd Ysgol Dyffryn Cledlyn ym Medi 2017 ym mhentref Drefach trwy uno tair Ysgol – Ysgol Cwrtnewydd, Llanwnnen a Llanwenog ar un safle. Dyma dalgylch ardal ein disgyblion, gan gynnwys Cribyn, sy’n bennaf yn ardal wledig brydferth iawn. Braint oedd i gyd-weithio gyda’r Ysgolion uchod wrth i ni uno yn un sefydliad newydd sbon mewn cyfnod cyffrous iawn. Mae llais y disgybl yn bwysig i ni ac rydym yn ymhyfrydu yn y ffordd y gwnaethom gydweithio gyda’n disgyblion i wrando ar eu syniadau gwreiddiol hwy. Mae tua 123 o ddisgyblion gyda ni yn yr ysgol, ac mae holl staff a disgyblion yr ysgol yn gweithio’n galed tuag at safonau uchel, moesau da a gwaith tîm unedig. Ceisiwn ddarparu profiadau lu i’n disgyblion sy’n cynnwys rhai cwricwlaidd ac allgyrsiol er mwyn creu disgyblion hapus ac hyderus fydd â sgiliau cadarn yn barod ar gyfer y camau nesaf yn eu bywydau. Am ragor o fanylion am yr ysgol porwch drwy’r wefan yma – ond os am sgwrs bellach yna cysylltwch gyda mi yn yr ysgol. |
A very warm welcome to you to Ysgol Dyffryn Cledlyn.
Ysgol Dyffryn Cledlyn opened its doors for the first time in September 2017 in the heart of Drefach, a village between Lampeter and Horeb. Three schools merged to create this community school – Cwrtnewydd, Llanwnnen and Llanwenog and these are the rural areas our children mostly travel from, as well as Cribyn. It was a great pleasure to work with the above schools as we ventured on the journey of uniting to form a new establishment, which was an exciting time. Listening to pupils voices is very important to us, and as we came together, this was given very careful consideration. This aspect was very important, in order for us to implement and act on their exciting ideas. There are around 123 pupils on roll and all of our committed staff work extremely hard in maintaining high standards and good morale and this being achieved through an united team effort. We hope to provide interesting curricular as well as extra curricular experiences with the aim of creating happy and confident children that are well prepared with excellent skills for their next steps in life. For further information please browse through this website but please contact me if you require. |
Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2019
|
Noa Potter Jones – Ysgol Gymunedol Dyffryn Cledlyn / Rh. Ceredigion. Llefaru Unigol Bl. 2 ac iau - Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a'r Fro 2019. |
Noa Potter Jones – Ysgol Gymunedol Dyffryn Cledlyn / Rh. Ceredigion. Unawd Bl. 2 ac iau - Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a'r Fro 2019. |
|
Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2018
|
Ysgol Gymunedol Dyffryn Cledlyn / Rh. Ceredigion. Côr Bl. 6 ac iau (Y.C.) (Ysgol hyd at 150) 2018 - Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed 2018. |
Noa Potter Jones – Ysgol Gymunedol Dyffryn Cledlyn / Rh. Ceredigion. 1Unawd Bl. 2 ac iau 2018 - Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed 2018 |
|
Gwisg Ysgol / School Uniform.
Gwisg Ysgol
Mae ein gwisg ysgol yn cael ei wisgo gan bob disgybl a gellir ei brynu yn yr ysgol. Gall y disgyblion wisgo trwseri du, sgertiau du, ffrogiau du, siorts du, teits du, esgidiau smart du. I gyd fynd â hyn mae crys polo gwyrdd “emerald “ â’r logo arno, crys chwys glas – “sapphire” â’r logo arno – dim hwdis. Hefyd gellir archebu cotiau, fflis, bagiau, cardigan. Am ragor o wybodaeth cysylltwch gyda’r weinyddes. Hefyd, dymunwn fod eich plentyn yn gwisgo dillad addas ar gyfer gemau a chwaraeon. Mae crysau t a logo arnynt ymhob maint. Mae esgidiau addas (trainers) yn hanfodol ar gyfer chwaraeon. Ni chaniateir gwisgo unrhyw dlysau gormodol na pheryglus. Mae gan yr ysgol hawl i dynnu oddi ar blentyn unrhyw dlws â ystyrir yn beryglus neu’n eithafol. Disgwylir i wallt y plant fod yn gymen. Cofiwch ysgrifennu / gludo enw’ch plentyn ar bob dilledyn. |
School Uniform
Ysgol Dyffryn Cleldyn has a school uniform which is worn by all pupils and can be purchased through the school. Children are able to wear black trousers, skirts, shorts, tights, black smart shoes and emerald green polo shirt with the school logo, sapphire blue sweatshirt with the school logo – no hoodies. Coats, hats, bags, cardigans are also available. Please see the receptionist. We also ask for your co-operation in ensuring that your child wears appropriate clothes for Physical Education activities. There are sapphire blue t shirts available in all sizes. Trainers are essential for all PE lessons. Tracksuits are being ordered at the moment. The wearing of excessive jewellery or anything that is deemed dangerous is not allowed. The school reserves the right to remove such items if thought to be harmful or unacceptable. Pupils’ hair is expected to be tidy. – no shaving. Please write / stick your child’s name on all garments. |
Trydar / Twitter
Ysgol Gynradd Dyffryn Cledlyn,
Drefach, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, SA40 9SX |
Cyfrynghau Cymeithasol / Social Media
|